YMUNO
GADAEL
WEBSITE IN ENGLISH
BIOG
BANDIAU
GIGS
KILLER PENGUINS
ADOLYGIADAU
DYSGU / GWEITHDAI
DOLENNI
CYSYLLTU
A KILLER PENGUIN !!
PRYNNWCH Y CD FAN HYN
 
Pumawd Gareth Roberts
GARETH A CHRIS O'CONNOR

Gareth Roberts- Trombôn
Gethin Liddinton - Trwmped
Paul Jones – Piano
Chris O’Connor – Bâs
Mark O’Connor - Drymiau

Marcin Wright- Sax / Clarinet (Cyn Mis Medi 2006)

Mae’r grwp wedi bod yn chwarae gyda’i gilydd ers sawl blwyddyn ac maen nhw wedi llwyddo i ennill poblogrwydd yng nghylchoedd Jazz De Cymru gyda’u perfformiadau unigryw a chyffrous. Mae pob aelod o’r band yn arweinydd band llwyddiannus ei hun ond yn ddiwedar fe ddaeth y Pumawd at ei gilydd o dan arweinyddiaeth Gareth er mwyn recordio eu CD hir ddisgwyliedig cyntaf “The Attack of the Killer Penguins” a gafodd ei ryddhau ar 1 Mehefin, 2006.

Mae pob aelod o’r Pumawd yn cerddor adnabyddus ar y sîn jazz Cymreig ac mae pob un wedi bod yn gysylltiedig ar ryw adeg gyda Cherddorfa Cyfansoddwyr Jazz Cymru. Mae Gareth a Gethin wedi bod yn chwarae gyda’i gilydd mewn nifer o fandiau gwahanol am flynyddoedd ac mae dealltwriaeth cerddorol da rhyngddynt. Mae Mark, Chris a Paul yn ffurfio 3/4 y Jones O’Connor Quartet, band poplogaidd, Cymraeg arall sydd eisoes wedi rhyddhau dau albwm sydd wedi cael adolygiadau da iawn. Gan fod Mark, Chris a Paul wedi gweithio gyda’i gilydd dros gyfnod maith, maent yn deall ei gilydd i’r dim wrth berfformio.

Er mwyn gwrando ar bytiau o CD Gareth ac er mwyn gwylio gwaith celf trawiadol Rhys Bevan Jone cliciwch ar y bwtwm Killer Penguins i’r chwith.

 
   
Cerddorfa Cyfansoddwr Jazz Cymru
CERDDORFA CYFANSODDWYR JAZZ CYMRU
Mae aelodau Cerddorfa Cyfansoddwyr Jazz Cymru wedi eu dewis o blith goreuon y sîn Jazz Cymreig ac mae’n cynnwys sawl cerddor Cyrmaeg sydd wedi derbyn adnabyddiaeth rhyngwladol fel Paula Gardiner (bâs), Huw Warren (piano, accordion) a Lee Goodall (sax).

Cerddoriaeth wreiddiol gan aelodau’r band yn unig sy’n cael ei berfformio gan y gerddorfa yma. Nid band jazz arferol mo hwn gyda’i 2 fâs dwbwl, 2 ddrymiwr, ffidil, llais ac accordion yn ogystal â’r offerynnau prês arferol.
Gareth yw’r unig chwaraewr trombôn yn y band a chwaraewyd ei gyfansoddiad ar gyfer y band “The Attack of the Killer Penguins” fel diweddglo i bob gig ar daith ddiweddar o gwmpas Cymru.
 
   
The Heavy Quartet
Wedi ei ffurfio yn 1984, mae’r Heavy Quartet wedi chwarae nifer o gigiau trwy gydol Prydain ac Ewrop. Mae nhw wedi cael y fraint o fod yr unig fand i berfformio yng Nhwyl Jazz Aberhonddu pob flwyddun ers dechreuad y gwyl enwog hon 20 mlynedd yn nôl.

Mae aelodaeth y band, sydd wedi amrywio dros y flynyddoedd yn sefyll ar hyn o bryd fel 8. Gareth, ag umunodd yng nghanol 2005, yw un o aelodau mwyaf newydd y band.

Mae ei albwm diweddaraf MACHINE (a chafodd ei recordio cyn i Gareth ymuno a’r band) yn dangos steil unigryw y band yma. Mae’r albwm yn cymysgu sain prês mawr gyda rhythmau funk a byrfyfyrio cyffrous.

http://www.heavyquartet.com
  THE HEAVY QUARTET
 
   
Bandiau Eraill  
BYRON JONES BIG BAND

Byron Jones Big Band

Band mawr traddiadol yw hyn yn cynnwys sawl un o gerddorion gorau De Cymru yn chwarae trefniannau o ganeuon band mawr death yn enwog drwy gael eu chwarae gan bandiau mawr gorau America fel Stan Kenton a Count Basie. Mae’r Byron Jones Big Band yn perfformio ar Nos Fercher cyntaf pob mis yn Neuadd Burleigh, Casnewydd. www.byronjonesbigband.com

Rob Smith Onsombl

Yn cael ei arwain gan Rob Smith (O’r Heavy Quartet a Wonderbrass) Mae offerynnwyr y band yma yn union yr un peth a Phumawd Gareth gyda Rob yn cymryd lle Marcin yn chwarae sacsaffon. Mae’r band yma yn chwarae gerddoriaeth gwreiddiol a ysgrifennwyd gan Rob ac mae nhw wedi perfformio sawl gig yng nghanolfan y Milleniwm a’r Jazz Café yn Gaerdydd.

Ummh

Mae Ummh yn band “acid jazz” Cymraeg (yn cynnwys rapwyr ac adran prês gyffrous) sydd wedi ennill sawl ffan gyda perfformiadau mewn amrywiaeth o Wyliau cerddoriaeth a gigs Cymraeg ers iddynt cael ei ffurfio yn Aberystwyth yn 1996. www.ummh.net

Li Harding

Mae steil pwerus Li o ganu jazz yn llwyddo i blesio gynylleidfaoedd lle bynnag mae hi’n perfformio. Ar ol gael darn wedi ei chyfansoddi iddi gan cerddorfa cyfansoddwyr jazz Cymru mae hi wedi llwyddo i ddangos i bawb ei fod hi’n medru perfformio mewn amrywiaeth o steiliau cyfoes yn ogystal i’w arddull blws gyfarwydd.

Neil Rosser a’r band


Band llwyddianus wedi’i arwain gan canwr, gitarydd, a chyfansoddwr Neil Rosser sydd wedi bod yn berfformio ar y sîn roc Gymraeg am flynyddoedd. Mae Neil wedi ennill sawl ffan o bob oedran gyda’i cyfuniad unigryw o gerddoriaeth Soul, Funk a Jazz. Mae e wedi llwyddo i ennill llai o ffrindiau gyda’i steil gorfforol o chwarae pêl droed pump bob ochr!

Yn ogystal i hyn mae Gareth hefyd yn chwarae mewn sawl band arall o gwpas ardal Gaerdydd a De-Cymru.







ROB SMITH
LI HARDING
Copyright © 2006 boomerwebdesign & Gareth Roberts | additional "Killer Penguin" Graphics by Rhys Bevan Jones
All images, logos, and other intellectual property displayed on this website are the property of their respective owners.