YMUNO
GADAEL
WEBSITE IN ENGLISH
BIOG
BANDIAU
GIGS
KILLER PENGUINS
ADOLYGIADAU
DYSGU / GWEITHDAI
DOLENNI
CYSYLLTU
A KILLER PENGUIN !!
PRYNNWCH Y CD FAN HYN
 
GARETH  YN BERFFORMIO YNG GWYL JAZZ ABERHONDDU 2005
Biog
Mae Gareth Roberts yn drombonydd sydd wedi bod yn chwarae Jazz o gwmpas ardal Caerdydd a De Cymru ers sawl blwyddyn. Mae'n chwarae mewn amryw o fandiau Cymreig (gweler bandiau) yn cynnwys Cerddorfa Cyfansoddwyr Jazz Cymru a phumawd Jazz wedi ei ffurfio a’i redeg ganddo ef ei hun a byddant yn chwarae nifer o’i gyfansoddiadau ef.
Cafodd ei brofiadau cerddorol cynnar Gareth yn Aberystwyth fel chwaraewr Iwffoniwm mewn Bandiau Prês. Yn hwyrach newidodd i chwarae'r trombôn ar ôl iddo benderfynu ei fod am chwarae Jazz a sylweddolodd na fyddai’r Jazz a chwareir ar yr Iwffoniwn byth yn profi i fod yn or-boblogaidd.

Ar ôl gadael Ysgol Gyfun Penweddig aeth Gareth i Brifysgol Nottingham i astudio Peirianneg Sifil ac ar ôl iddo dreulio 3 blynedd yn dysgu popeth oedd i’w ddysgu am goncrît a dulliau weldio dychwelodd i Aberystwyth i ddilyn cwrs Ymarfer Dysgu Mathemateg.

Symudodd Gareth i Gaerdydd ym 1998 ac am bum mlynedd fe weithiodd fel athro llawn amser yn Ysgol Gyfun Rhydywaun cyn i ormod o nosweithiau hwyr ar y sîn jazz ei orfodi i adael er mwyn dilyn cwrs Ôl-Raddedig Jazz yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru. Astudiodd Gareth gyda Paula Gardiner a Keith Tippett a sawl cerddor jazz adnabyddus arall ac fe gafodd wersi trombôn gan Mark Bassey yng Ngholeg Trinity, Llundain.

Mae Gareth yn brysur iawn fel trombonydd ac yn ogystal â chwarae gyda nifer fawr o fandiau y mae hefyd yn debyn gwaith rheolaidd yn chwarae ar y teledu a´r radio. Yn ddiweddar perfformiodd ar ddrama a ennillodd wobr ar Radio 3.

Yn ogystal â gweithio'n broffesiynol fel trombonydd mae Gareth hefyd yn brysur iawn yn gweithio yn y byd addysg cerddoriaeth. Y mae'n dysgu’n rhan amser yn Ysgol Gyfun Glantaf, mae´n arwain a chyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer dau fand jazz disgyblion ysgol ac fe’i cyflogir gan sawl mudiad gwahanol i redeg gweithdai cerdd ar gyfer disgyblion o bob oed (gweler dysgu / gweithdai).

Mae Gareth newydd ryddau ei CD cyntaf a elwir yn “The Attack of the Killer Penguins”. Mae´r CD ar gael i brynu oddi ar y wefan hon. Yn ogystal â’i brynu, mae'n bosib gwrando ar sawl cân wrth wylio gwaith celf trawiadol Rhys Bevan Jones. (Gweler Killer Penguins).
YN CHWARE YNG NHWYL JAZZ ABERHONDDO GYDA'R BAND  AMAPONDO O AFFRICA
YN CHWARAE YN CLWB JAZZ Y RIVERBANK, LLUN GAN BRENDA O'BRIEN
CHARLES MINGUS, JIMMY KNEPPER, GARY VALENTE & ANDY SHEPPARD
Dylanwadau Cerddorol
Mae Gareth yn rhestru sawl cerddor sydd wedi cael dylanwad ar ei ysgrifennu a'i chwarae:

“Y cyfansoddwr sydd wedi dylanwadu fwyaf arna i yw Charles Mingus, mae'r cydbwysedd y mae'n llwyddo i’w gael rhwng yr ysgrifennu a'r byrfyfyrio yn berffaith ac wedi bod yn rhywbeth rydw i wedi anelu i’w gopio yn fy nghyfansoddiadau fy hun. Rydw i hefyd wedi cael fy nylanwadu'n gryf gan gyfasoddwyr yr oes Blue Note fel Horace Silver sydd yn fy marn i yn un o'r cyfansoddwr jazz gorau erioed i grwpiau bach. Yn ddiweddar rydw i wedi cymryd diddordeb mewn rhai o'r dulliau rhythmig o gyfansoddi a ddefnyddir gan Dave Holland yn ogystal a chyfansoddwyr eraill.

“Fel chwaraewr trombôn mae’n rhaid i mi ddweud mai'r ddau chwaraewr sydd wedi cael y dalanwad mwyaf ar fy steil o chwarae yw Jimmy Knepper a Gary Valente. Yn fy marn i mae'r ddau chwaraewr yma´n chwarae'r trombôn yn y ffordd y dylai'r trombôn gael ei chwarae. Maen nhw´n defnyddio cryfderau´r offeryn. Ar ôl i mi glywed Gary Valente yn chwarae unawd ar un o recordiau Andy Sheppard y penderfynais newid o chwarae'r iwffoniwm i’r trombôn yn y lle cyntaf.”

Clocwedd, yn dechrau o'r chwith; Lluniau o Charles Mingus, Jimmy Knepper, Albwm Andy Sheppard "Soft on the inside & Gary Valente.

 
Copyright © 2006 boomerwebdesign & Gareth Roberts | additional "Killer Penguin" Graphics by Rhys Bevan Jones
All images, logos, and other intellectual property displayed on this website are the property of their respective owners.