Mae Gareth
yn athro cymhwysiedig a bu’n dysgu’n llawn amser
am bum mlynedd yn Ysgol Gyfun Rhydywaun.
Gadawodd Gareth ddysgu’n llawn amser yn 2003 er mwyn
dilyn cwrs ôl-raddedig yn Jazz yn Coleg Cerdd a Drama
Cymru. Yn ystod y cyfnod yma bu yn gweithio rhan amser yn
Ysgol Gyfun Plasmawr. Ar hyn o bryd mae Gareth yn dysgu’n
rhan amser yn Ysgol Gyfun Glantaf yng Nghaerdydd.
Yn ogystal â gweithio fel athro mewn ysgol mae Gareth
hefyd yn brysur iawn yn cynnal gweithdai cerdd i ddisgyblion
o bob oedran. Ym mis Hydref 2005 mynychodd gwrs i arweinwyr
gweithdai cerdd yng Ngholeg Cerdd Guildhall yn Llundain
ac ers hynny mae e wedi cael ei adnabod gan Coleg
Guildhall a Coleg Cerdd a Drama Cymru
fel arweinydd gwiethdai cerdd ar gyfer y prosiect cenedlaethol
Note 4 Note. Mae Gareth yn rhan o’r
tîm sydd yn cael eu cyflogi gan Goleg Cerdd a Drama
Cymru i gynnal gweithdai cerdd mewn ysgolion lleol yn Ne
Cymru.
Mae Gareth hefyd yn gweithio’n rheolaidd yng Nghanolfan
y Mileniwm. Mae’n cynnal gweithdai cerdd
yn wythnosol i’r Urdd ac mae’n cynnal gwithgareddau
cerdd i sawl ymweliad ysgolion i’r ganolfan.
Mae Gareth yn arwain dau fand jazz ysgol llwyddianus ac
mae bandiau mae e'n arwain wedi llwyddo i ennill y cystadleuaeth
ensemble iau yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd am y dwy
flynedd diwethaf.
Mae Gareth hefyd yn rhoi gwersi trombôn preifat yn
ogystal â pharhau i diwtora Mathemateg i safon TGAU
a Lefel- A.
|